Canolfan Halliwell - Campws Caerfyrddin

Am yr Halliwell...

Mae’r Halliwell yn ddelfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau. Os ydych yn trefnu cynhadledd, gwledd, neu briodas, gallwn eich helpu i wneud yr achlysur yn un arbennig iawn!...

Gall yr Halliwell ddarparu ar gyfer eich holl anghenion mewn awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. O gynadleddau a gwleddoedd ffurfiol ar gyfer hyd at 300 o westeion i giniawau a chyfarfodydd bach, gallwch fod yn sicr o dderbyn gwasanaeth o safon uchel gennym. Mae dewis o ystafelloedd bwyta a chynadledda ar gael trwy gydol y dydd a’r nos ac mae gan bob un ei naws a’i harddull unigryw. Saif yr Halliwell ar Gampws Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac mae’n un o’r lleoedd mwyaf poblogaidd gyda’r adnoddau gorau yng ngorllewin Cymru. Mae gennym enw da am ein croeso cynnes ac ansawdd uchel ein bwyd. Gwnawn ein gorau i ddarparu ar gyfer pob cais fel bod holl anghenion ein cwsmeriaid yn cael eu diwallu. Mae ein tîm profiadol o ben-cogyddion yn darparu bwydlenni arbennig i weddu i’r achlysur ac anghenion bwyd eich gwesteion. Caiff ein bwydlenni eu paratoi’n ffres gan ddefnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo hynny’n bosibl.Y mae yma gyfleusterau parcio ac mae’n ddigon hawdd ein cyrraedd ar hyd ffyrdd a rheilffyrdd da, ac mae traffordd yr M4 a’r A40 o fewn cyrraedd hwylus.

Dewis o ystafelloedd...

Ystafell Cothi - O’i threfnu yn arddull theatr, mae lle yn Ystafell Cothi i hyd at 250 o gynadleddwyr, ac mae’n ystafell hyblyg iawn gyda digonedd o le ar gyfer arddangosfeydd, cyflwyniadau a chynadleddau mawr. Mae ganddi ei system sain ei hun, dolenni anwytho a system aerdymheru. Mae’r Cothi yn dal 200 ar gyfer gwledd, ac yn cynnwys llawr dawnsio a lle patio ac nid oes unrhyw bileri yn y ffordd i’ch atal rhag gweld popeth sy’n mynd ymlaen.

Ystafell Teifi - Mae lle yn Ystafell Teifi ar gyfer hyd at 100 o westeion ac mae hefyd yn cynnwys bar. Mae’n ystafell ddelfrydol ar gyfer ciniawau bach ac hefyd ar gyfer derbyniad cyn y wledd priodas.

Ystafell Taf - Yn Ystafell Taf gellir cynnal cyfarfodydd llai a sesiynau hyfforddi ar gyfer hyd at 40 o gynadleddwyr. Mae Ystafell Taf yn lleoliad mwy preifat gyda seddi cysurus.

Ystafell Flemming - Gyda chadeiriau Carver deri uchel a chypyrddau llyfrau ar hyd y waliau, mae’r Flemming yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol yn arddull ystafell fwrdd a hefyd prydau ffurfiol. Ceir lle i 40 o gynadleddwyr.

Bwyty Merlin - Mae Bwyty Merlin yn lleoliad ardderchog ar gyfer ciniawau mawr a gall ddarparu ar gyfer hyd at 300 o westeion.

Theatr Halliwell - Gyda seddau ar gyfer hyd at 350, mae’r theatr yn ddelfrydol ar gyfer cynadleddau mawr. Lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau lansio, cyngherddau a chynyrchiadau theatr.

Ceir manylion maint a chyfanswm yr ystafelloedd isod

  Cothi Teifi Flemming Taf Theatr
Maint          
Hyd 65’ 11” 49’ 6” 30’ 10” 27’ 3” 32’ 11”
Lled 34’ 4” 22’ 8” 24’ 8” 22’ 8” 21’ 0”
           
Gosodiad          
Steil theatr 250 100 50 35 N/A
Dosbarth 80 40 18 15 N/A
Ystafell fwrdd 50 35 20 22 N/A
Pedol 50 35 20 22 N/A
Cinio a derbyniad 200 70 35 25 N/A
Cinio a dawns 130 50 N/A N/A N/A
Bwffe a dawns 130 50 N/A N/A N/A
Theatr N/A N/A N/A N/A 350
           

Am ragor o wybodaeth, ac i drefnu ymweliad personol i weld y cyfleusterau a thrafod eich gofynion, ffoniwch y Swyddog Cynadleddau a Digwyddiadau ar 01267 222252.

Cysylltu