Canolfan Halliwell - Campws Caerfyrddin
Cynadledda a Chiniawa
Mae’r Halliwell yn ddelfrydol ar gyfer pob math o ddigwyddiadau busnes a chiniawa. Os ydych yn trefnu cynhadledd, lansiad neu wledd, gallwn eich helpu i wneud yr achlysur yn un arbennig iawn!
Pecyn Gwybodaeth (pdf)
Ffurflen Bwcio Cynhadledd (pdf)
O giniawau bach i wleddoedd ysblennydd ar gyfer 300 o westeion, gallwch fod yn sicr o gael gwasnaeth o safon uchel. Mae dewis o ystafelloedd bwyta ar gael yn ystod y dydd a’r hwyr ac mae gan bob un ohonynt ei arddull a’i naws unigryw. Mae ein tîm profiadol o ben-cogyddion yn darparu bwydlenni arbennig i weddu i’r achlysur ac anghenion bwyd ein gwesteion. Caiff ein bwydlenni eu paratoi’n ffres gan ddefnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Mae ein cyfleusterau a’n gwasanaethau yn cynnwys:
- Pedair ystafell gynadledda a bwyta gyda lle i hyd at 300
- Amrywiaeth eang o fwydlenni cynadledda o safon uchel, sy’n defnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo hynny’n bosibl
- Bwyty a Siop Goffi
- Bar cyflawn a bar poteli
- Patio gyda chelfi i’r ardd
- Pecynnau cynadledda dydd
- Man cofrestru a derbynfa
- Amrywiaeth lawn o gyfleusterau clyweled a thechnegol gan gynnwys cyfleusterau diwifr
- Gwasanaethau swyddfa, yn cynnwys llungopïo, ffacsio ac e-bostio
- Mynediad i’r anabl
- System sain a dolen anwytho ar gyfer y trwm eu clyw
- Cyfleusterau parcio
Ystafell Cothi - O’i threfnu yn arddull theatr, mae lle yn Ystafell Cothi i hyd at 250 o gynadleddwyr, ac mae’n ystafell hyblyg iawn gyda digonedd o le ar gyfer arddangosfeydd, cyflwyniadau a chynadleddau mawr. Mae ganddi ei system sain ei hun, dolenni anwytho a system aerdymheru. Mae’r Cothi yn dal 200 ar gyfer gwledd, ac yn cynnwys llawr dawnsio a lle patio ac nid oes unrhyw bileri yn y ffordd i’ch atal rhag gweld popeth sy’n mynd ymlaen.
Ystafell Teifi - Mae lle yn Ystafell Teifi ar gyfer hyd at 100 o gynadleddwyr ac mae hefyd yn cynnwys bar.
Ystafell Taf - Yn Ystafell Taf gellir cynnal cyfarfodydd llai a sesiynau hyfforddi ar gyfer hyd at 40 o gynadleddwyr. Mae Ystafell Taf yn lleoliad delfrydol ar gyfer digwyddiadau bach a llai ffurfiol.
Ystafell Flemming - Gyda chadeiriau Carver deri uchel a chypyrddau llyfrau ar hyd y waliau, mae’r Flemming yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol yn arddull ystafell fwrdd a hefyd prydau ffurfiol. Ceir lle i 40 o gynadleddwyr.
Theatr Halliwell - Gyda seddau ar gyfer hyd at 350, mae’r theatr yn ddelfrydol ar gyfer cynadleddau mawr. Lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau lansio, cyngherddau a chynyrchiadau theatr.

Pecyn Gwybodaeth (pdf)
Ffurflen Bwcio Cynhadledd (pdf)
Am ragor o wybodaeth, ac i drefnu ymweliad personol i weld y cyfleusterau a thrafod eich gofynion, ffoniwch y Swyddog Cynadleddau a Digwyddiadau ar 01267 222252.

