Canolfan Halliwell - Campws Caerfyrddin

Priodasau a Dathliadau

Dewis o ystafelloedd

Ystafell Cothi

Ystafell â system aerdymheru sydd â lle i uchafswm o 160 o westeion ar gyfer eich Gwledd Briodas, a 250 am bwffe gyda’r nos. Mae’n cynnwys bar, llawr dawnsio canolog a feranda fawr ar gyfer diwrnodau braf o haf.

Ystafell Teifi

Ystafell ychydig yn llai gyda lle i uchafswm o 70 o westeion ar gyfer pryd ffurfiol neu 120 ar gyfer bwffe. Mae’n cynnwys bar a llawr dawnsio symudol.

Ystafell Flemming

Ystafell gartrefol, yn ddelfrydol ar gyfer priodasau llai, gyda lle i hyd at 34 o bobl.

Ystafell Taf

Lolfa ddelfrydol ar gyfer grŵp bach, gyda lle i hyd at 30 ar gyfer pryd o fwyd ffurfiol.

Bwyty Merlin

Bwyty mawr gyda lle i hyd at 260 o westeion i eistedd llawr ar gyfer pryd ffurfiol neu bwffe

Mae cost y brif ystafell wedi’i chynnwys ym mhrisiau’r pecynnau. Gellir cynnig ystafelloedd ychwanegol am bris rhesymol.

Yn ogystal mae eich Pecyn Priodas yn cynnwys nifer o bethau ychwanegol.

Nid yn unig y mae TAW wedi’i chynnwys, rydym hefyd yn cynnig y manteision canlynol a hynny yn rhad ac am ddim:

Defnydd o’n stand cacennau a chyllell arian
Meicroffon ar gyfer yr areithiau holl bwysig
Napcynnau o’n detholiad
Bar Preifat

Os hoffech drefnu ymweliad personol i weld y cyfleusterau a thrafod manylion eich priodas, mae croeso i chi ffonio’n cydlynydd ar 01267 222252.

Priodasau a Dathliadau

Cysylltu