Canolfan Halliwell - Campws Caerfyrddin

Priodasau a Dathliadau

Hoffem gymryd y cyfle hwn i’ch llongyfarch gan eich bod yn mynd i ddathlu’ch priodas cyn hir ac estyn ein dymuniadau gorau ichi am y dyfodol.

Bydd eich Priodas yn un o ddiwrnodau pwysicaf eich bywydau a hoffem ni yn yr Halliwell eich helpu i wneud eich diwrnod yn un sy’n wir arbennig. Rydym yn ymfalchïo yn ein enw da am gynnig lleoliad ysblennydd ynghyd â lletygarwch o’r radd flaenaf.

Bydd ein tîm o weithwyr proffesiynol at eich gwasanaeth o’r funud ichi archebu, a byddwn wrth ein bodd yn eich helpu a’ch cynghori wrth gynllunio’ch diwrnod.

P’un ai lleoliad ar gyfer dathliad mwy agos atoch, neu ddathliad mwy ffurfiol sydd wrth eich bodd, mae’r cyfleusterau iawn ar gael yn yr Halliwell. Mae’n hystafelloedd ar gyfer digwyddiadau’n addas ar gyfer gwleddoedd Priodas o feintiau amrywiol, o 20 i 260 o westeion.

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth ganlynol o gymorth ichi. Er mwyn cael gweld ein hystafelloedd yng Nghanolfan yr Halliwell, rhowch alwad inni a byddwn yn hapus iawn i drefnu apwyntiad i drafod eich anghenion unigol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fwydlenni, gan ddefnyddio cynnyrch lleol hyd y gellir, a gallwn ddarparu ar gyfer llysieuwyr a dietau arbennig os oes angen. Mae’r fynedfa i’r Ganolfan yn hwylus iawn i bobl anabl a gerllaw mae maes parcio â lle i 250 o geir.

Mae gan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Caerfyrddin Gapel eu hun o fewn ei diroedd. Mae’r Capel ar gael ar gyfer cynnal Priodasau yn unol â defodau’r Eglwys yng Nghymru, ac yn amodol ar fodloni gofynion cyfreithiol cael trwydded ar gyfer priodi mewn Capel Coleg.

Y Tiroedd

Mae Canolfan yr Halliwell wedi’i leoli yng nghanol tiroedd godidog Campws Caerfyrddin, yn lleoliad delfrydol ar gyfer ffotograffau arbennig diwrnod eich Priodas.

  • Dewis o ystafelloedd
  • Bwydlen Gwledd Briodas
  • Detholiad o Ddiodydd
  • Cynigion Arbennig
  • Bwydlenni Bwffe - Parti Nos
  • Amodau Neilltuo Lle
Priodasau yn yr Halliwell (pdf)

Cysylltu