Arddangosfa Thomas Phillips
13eg - 16eg Ganrif
Evangelivm sanctvm Domini Nostri Iesu Christi conscriptvm a qvatvor Evangelistis sanctis idest, Matthaeo, Marco, Lvca, et Iohanne. Rome, 1590.
Ym 1584, sefydlodd yr athro mewn mathemateg ac athroniaeth, Giovani Battista Raimondi (ca. 1536-1614), Wasg Ddwyreiniol Medici yn Rhufain. Argraffiad Arabaidd cyntaf y wasg oedd yr argraffiad hwn o’r Efengylau, a dyddiad 1590 ar yr wynebddalen, a 1591 ar y diwedd. Lluniwyd y teipiau Arabeg gan y torrwr teip o fri, Robert Granjon o Lyon, a gynhyrchodd deip metel symudol. Roedd y sgript Arabeg redol a ailgynhyrchwyd yng ngweithiau Gwasg Medici yn rhagori ar bob ymgais flaenorol yn Ewrop a byddai'n parhau’n ddihafal ymhell ar ôl i'r wasg gau. Mae’n debyg mai gwaith Leonardo Parasole (ganed c. 1570) yw’r 149 o dorluniau sy’n addurno’r llyfr. Maent yn seiliedig ar ddyluniadau gan yr artist o Fflorens, Antonio Tempesta, sy’n enwog am y ffresgoau a baentiodd yn y Fatican ac mewn nifer o balasau. Argraffwyd chwe thestun Arabeg arall gan y wasg hon dros y pedair blynedd nesaf, gan gynnwys pum testun gwyddonol gan ysgolheigion Mwslemaidd.

