Arddangosfa Thomas Phillips
13eg - 16eg Ganrif
Galen. Works. Venice, 1525.
Roedd y gwaith hwn yn nodi dechrau cyfnod newydd yn hanes ysgolheictod meddygol ac ieithegol. Roedd pum cyfrol ffolio'r casgliad yn goron ar bron 100 mlynedd o ysgolheictod gweithgar, a dyma’r testun sengl mwyaf i’w gyhoeddi gan un o gyhoeddwyr pwysicaf y Dadeni, sef gwasg Aldine. Roedd cwymp Caergystennin ym 1453 wedi bygwth pwysigrwydd a pharhad ysgolheictod Groegaidd, ond daeth cyhoeddiadau tebyg i rai Gwasg Aldine i’r adwy. Yn aml roedd angen seilio gweithiau'r awduron clasurol ar gynifer o lawysgrifau ag y gallai’r argraffwr ddod o hyd iddynt. Trwy gasglu ac argraffu testunau o’r fath, yn ogystal â'u diogelu, sicrhawyd eu bod hefyd yn mynd o fod yn eiddo preifat i ychydig i fod ar gael ar draws y byd ysgolheigaidd - a hynny mewn ffurf safonol a gywirwyd. Buan y daeth fersiwn Aldine o destun Groeg Galen yn awdurdodol, a bu cyfieithwyr maes o law yn pwyso'n drwm arni. Yn y ddelwedd uchod gwelir dyfais Gwasg Aldine, sef angor a dolffin.

