Arddangosfa Thomas Phillips
C16
Giovanni Agostino Pantheo. Voarchadumia contra alchi'miam.Venice, 1530.
Mae’r gwaith alcemegol hwn yn anarferol am ei fod yn defnyddio dull o argraffu mewn pedwar lliw. Offeiriad o Fenis oedd Pantheo (1517-1535) ac ysgrifennodd yn erbyn alcemeg “di-sail”. Yn y gwaith presennol mae’n trafod â’r broses o brofi aur, gyda chymorth darluniadau o felinau rholio, ffwrneisiau o wahanol fathau a chyfarpar alcemegol. Mae gan y gyfrol hefyd dorluniau pren sy’n dangos darnau arian yn cael eu bathu, ynghyd â threm ar Fenis a'r hyn sydd o'i chwmpas.

