Arddangosfa Thomas Phillips

13eg - 16eg Ganrif

Giovanni Boccaccio. Genealogia deorum. Venice, 1472. Giovanni Boccaccio. Genealogia deorum. Venice, 1472.

Giovanni Boccaccio (1313-1375). Yn ei Geneologiae deorum, casglodd Boccaccio gyfoeth o chwedlau am fywydau a charwriaethau duwiau Groeg a Rhufain..  Gwaith dyneiddiol ei ysbryd yw hwn, a chanoloesol ei strwythur.  Er i anwybodaeth Boccacio o iaith Groeg fod yn rhwystr iddo, daeth ei linach yn gyfeirnod safonol i artistiaid a beirdd a gellir ei ystyried yn un o’r gweithiau cyntaf o ysgolheictod clasurol modern. Dyma’r fersiwn argraffedig gyntaf a wnaed gan Vindelinus de Spira, a oedd yn argraffu yn Fenis rhwng 1470 a 1477. Darluniwyd a goliwyd y goeden achyddol â llaw.

Hawlfraint