Arddangosfa Thomas Phillips

C16

Girolamo Cardano De svbtilitate. Basel, 1554. Girolamo Cardano De svbtilitate. Basel, 1554.

Mae’r llyfr yn un o weithiau gwyddoniadurol mwyaf y Dadeni, ac mae ganddo gyfoeth o wybodaeth am wyddorau cyfoes, ofergoeliaeth, technoleg, alcemeg ac amryfal ganghennau'r ocwlt.  Mathemategydd, anturiaethwr, gwyddonydd o’r Eidal, Girolamo Cardano (1501-1576), a oedd yn gyfrifol am yr astudiaeth drylwyr gyntaf i debygolrwydd, oedd awdur y gwaith.  Gwnaeth hynny o reidrwydd am ei fod yn ennill ei fywoliaeth trwy hapchwarae. Llythyren flaen addurniadol o’r De svbtilitate, yw’r ddelwedd a welir yma, ac mae’n nodweddiadol o ddyluniadau’r cyfnod sydd yn aml yn rhai doniol.

Hawlfraint