Arddangosfa Thomas Phillips
13eg - 16eg Ganrif
Horae. France, 15th.
Yn y Canol Oesoedd, os dim ond digon o arian i brynu un llyfr fyddai gennych, byddech wedi prynu Llyfr Oriau, sef cyfrol fechan o weddïau Cristnogol y byddai lleygwyr yn eu hadrodd ar wahanol adegau o’r diwrnod. Roedd poblogrwydd Llyfrau Oriau yn arwydd o ddau newid cymdeithasol o bwys, sef y cynnydd mewn llythrennedd, a’r duedd i arferion crefyddol fynd yn fwy personol. Ysgrifennwyd y Llyfr Oriau hwn, sef Gwasanaeth neu Oriau’r Forwyn Fendigaid, yn Ffrainc i’w ddefnyddio yn esgobaeth Rouen tua diwedd y bymthegfed ganrif. Ymddengys iddo gael ei ysgrifennu ar gyfer y fenyw a bortreadir yn llun y Forwyn o’r plentyn a ddangosir uchod. Roedd y llawysgrif ym meddiant Charles Boddam, o Goleg y Drindod, Caergrawnt ym 1782 ac fe'i prynwyd maes o law gan Thomas Phillips a’i chyflwyno i Goleg Dewi Sant Llanbed ym 1846.

