Arddangosfa Thomas Phillips

13eg - 16eg Ganrif

Jan Huygen van Linschoten. Nauigatio ac itinerarium Iohannis Hugonis Linscotani in orientalem siue Lusitanorum Indiam. Hague, 1599. Jan Huygen van Linschoten. Nauigatio ac itinerarium Iohannis Hugonis Linscotani in orientalem siue Lusitanorum Indiam. Hague, 1599.

Ym 1584, teithiodd Linschoten (1563-1611) i Goa yng nghyflogaeth y teulu Fugger a oedd yn fancwyr masnachol.  Pan oedd yn yr India copïodd fapiau a siartiau cyfrinachol o India’r Dwyrain a wnaed gan y Portwgeaid.   Ar ôl dychwelyd i’r Iseldiroedd ym 1592, aeth ati i baratoi'i nodiadau a'i fapiau ar gyfer y cyhoeddwr Claeszoon yn Amsterdam mewn ymateb i’r diddordeb yn yr Iseldiroedd a gwledydd Ewropeaidd eraill ym mhosibiliadau masnachol Asia.  Gan fod masnach â’r Dwyrain Pell yn dibynnu ar ffyrdd trwy America neu Affrica, byddai ei waith yn cwmpasu'r byd yn grwn yn y pen draw, gan gynnwys gweithgareddau Sbaen a Phortiwgal yn America.  Itinerario Linschoten oedd y ffynhonnell sengl bwysicaf ynghylch India’r Dwyrain a’r Gorllewin a chyhoeddwyd argraffiadau lu ohono yn yr Isalmaenig, Lladin, Ffrangeg, Almaeneg a Saesneg.

Hawlfraint