Arddangosfa Thomas Phillips
C16
Johannes Schöner. De iudiciis natiuitatum. Nuremberg, 1545.
Johannes Schöner (1477-1547) oedd un o brif astrolegyddion Ewrop yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Ymdrechodd i adnewyddu seiliau hynafol astroleg a’i sefydlu ymhlith y gwyddorau cyhoeddus. Roedd ei waith presennol yn rhan o’i ymgais i hyrwyddo astroleg fel disgyblaeth drwyadl. Roedd Schöner hefyd yn enwog ledled Ewrop am fod yn wneuthurwr globau a chosmograffydd arloesol a dylanwadol. Ef a wnaeth rai o’r globau hynaf sydd ar gael heddiw. Roedd ganddo hefyd rôl arwyddocaol yn y penderfyniad i gyhoeddi gwaith Copernicus, De revolutionibus yn Nürnberg ym 1543. Enwyd crater ar blaned Mawrth ar ei ôl i’w anrhydeddu.

