Arddangosfa Thomas Phillips

13eg - 16eg Ganrif

Konrad Gesner. Historia animalium. Zurick, 1575. Konrad Gesner. Historia animalium. Zurick, 1575.

Gellid dadlau mai Conrad Gesner (1516-1565) oedd naturiaethwr mwyaf ei ddydd.  Rhwng 1551 a 1558, cyhoeddodd Gesner gampwaith mewn pedair cyfrol, The History of Animals.  Aeth ati i gynnwys sylwadau gan ysgolheigion clasurol, gan bwyso'n drwm ar y bwystawr Physiologus, a ysgrifennwyd yn ystod y bedwaredd ganrif OC, fwy na thebyg, yn ogystal ag ar waith ei gyfoeswyr.  Hwyluswyd ei ymdrechion i raddau helaeth gan rwydwaith o ohebiaeth a gychwynnwyd ganddo â naturiaethwyr o fri ledled Ewrop. Yn ogystal â rhannu syniadau, anfonodd y rhain blanhigion, anifeiliaid a blagur ato.  Ar adeg o dyndra crefyddol mawr (oherwydd ei ddaliadau Protestannaidd ei hun, ychwanegwyd The History of Animals at Fynegair y llyfrau a oedd dan waharddiad gan yr Eglwys Babyddol), llwyddodd Gesner i gynnal cyfeillgarwch â phobl ar y naill ochr a’r llall i’r ffin rhwng Catholigion a Phrotestaniaid.  Roedd y darluniau helaeth a ddefnyddiodd Gesner yn anarferol i'r cyfnod.  Gwnaed yr torluniau pren hardd gan yr artist Lucas Schan o Strasbourg.

Hawlfraint