Arddangosfa Thomas Phillips

C16

Liber sacrosancti evangelii de Iesv Christo. Vienna, 1562. Liber sacrosancti evangelii de Iesv Christo. Vienna, 1562.

Dyma’r argraffiad printiedig cyntaf o’r Efengylau yn y Syrieg.  Mae’n cynnwys rhagarweiniad hir gan Widmanstetter lle mae’n rhoi hanes astudiaethau dwyreiniol yn Ewrop. Ysgolhaig, diplomydd, cyfreithiwr a gwleidydd oedd Widmanstetter (1506-1557) a threuliodd ychydig o amser yng ngwasanaeth y Pab. Ym 1552, fe’i penodwyd yn ganghellor ar Awstria Isaf.  Cyhoeddodd ei waith gyda chymorth yr arbenigwr ar y Dwyrain o Ffrainc, Guillaume Postel a chymorth ariannol gan Fferdinand I, a ddaeth yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig ar ôl i’w frawd, Siarl V, ildio’r goron ym 1555. Yn ogystal â chwyddo bri teulu Hapsbwrg o Awstria, nod yr argraffiad oedd cefnogi Cristnogion yn yr Ymerodraeth Otoman.   Gwelir y torlun emblemataidd hwn a ddangosir yma gyferbyn â diwedd yr Efengyl yn ôl Luc.  Mae ganddo’r arwyddair "In hoc Signo vinces, et conculcabis Leonem et Draconem," wedi’i gyfieithu i’r Syrieg ar y naill ochr a’r llall i’r groes.  Mae rhan gyntaf yr arwyddair, "Yn yr arwydd hwn gorchfygi," yn cyfeirio at y freuddwyd honedig o’r groes danllyd a gafodd yr Ymerawdwr Cystennin ychydig cyn ei dröedigaeth i Gristnogaeth a’i fuddugoliaeth ar Maxentius yn 312.  Daw’r ail ran, "y llew a’r ddraig a sethri," o Salm 91:13 ac roedd yn aml yn cyfeirio at drechu heresi.  I’r chwith i’r groes gwelir helm yr ymerawdwr wedi’i choroni â phlu paun; i’r dde gwelir arfbais Awstria.  Ar odre’r groes gwelir arwyddluniau Urdd y Cnu Aur a sefydlwyd gan ddug Bwrgwyn ym 1430 ac a fu’n gysylltiedig iawn erioed â theulu'r Hapsbwrg.

Hawlfraint