Arddangosfa Thomas Phillips

13eg - 16eg Ganrif

Livy. Ab urbe condita.Paris, 1516. Livy. Ab urbe condita.Paris, 1516.

Hanes Rhufain o’r cyfnod chwedlonol cynharaf yw Ab Urbe Condita Libri. Mae’n trafod cyfnod ymhell cyn dyddiad swyddogol sefydlu’r ddinas, sef  753 CC, ac yn estyn hyd deyrnasiad Awstin yn nyddiau Livy ei hun (Titus Livius, 59 CC - 17 OC).  Daw’r gwaith hwn o wasg Jodocus Badius (1462-1535) a oedd yn un o arloeswyr y diwydiant argraffu. Cafodd Badius hyfforddiant ysgolheigaidd yn yr Eidal cyn iddo ymuno â chwmni argraffu Trechsel yn Lyon tua dechrau’r 1490au, lle’r oedd yn gyfrifol am argraffu testunau dyneiddiol ac eglwysig.  Symudodd i Baris tua diwedd y degawd, lle cafodd gefnogaeth ariannol gan yr argraffwr cyfoethog, Jean Petit. Gwnaeth Badius enw iddo’i hun am argraffu cyfrolau gyda nodiadau o weithiau awduron Groeg a Lladin, ynghyd ag awduron dyneiddiol megis Lorenzo Valla (1406-1457), ac roedd ei argraffdy yn fan cyfarfod i brif ddyneiddwyr Ffrainc. Yn ogystal â’i orchestion ysgolheigaidd, mae Badius yn enwog am ei ddyfais argraffu, sef un o’r darluniadau cynharaf o’r broses argraffu. Yn y ddyfais gwelir Badius a’i gynorthwyydd.

Hawlfraint