Arddangosfa Thomas Phillips

13eg - 16eg Ganrif

Odo de Meung. De viribus herbarum.Geneva, 1498. Odo de Meung. De viribus herbarum.Geneva, 1498.

De viribus herbarum oedd un o destunau botanegol pwysicaf a mwyaf poblogaidd y Canol Oesoedd.  Ysgrifennwyd y gwaith mewn ar fydr gan Odo de Meung, a oedd yn byw yn ardal afon Loire yn Ffrainc tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg. Nid yw’r gwaith yn seiliedig ar yr hyn yr oedd yr oedd yr awdur wedi’i weld â’i lygaid ei hun; fodd bynnag, mae iddo bwysigrwydd fel un o’r llawysgrifau Gorllewinol cyntaf sy’n dangos yr adfywiad mewn botaneg yn y Canol Oesoedd.  Mae’r testun yn seiliedig ar Pliny, Galen, Dioscorides, a Hippocrates.  Ymddangosodd y fersiwn argraffedig gyntaf ym 1477. Ymddengys mai’r copi hwn yw’r argraffiad darluniadol cyntaf. Ar y dudalen deitl gwelir torlun pren mawr o ffisigwr yn ysgrifennu yn ei lyfrgell ac mae gan y gwaith 66 o dorluniau pren o flodau a pherlysiau.  Bu’n waith poblogaidd dros ben am gyfnod hir, ac mae llawer wedi priodoli hyn i’r mydr a ddefnyddiodd Mucer a oedd yn ei gwneud yn haws i feddygon ac apothecariaid ddysgu ei bresgripsiynau ar eu cof.

Hawlfraint