Arddangosfa Thomas Phillips

C16

Olaus Magnus. Historia de gentibvs septentrionalibvs. Antwerp, 1558. Olaus Magnus. Historia de gentibvs septentrionalibvs. Antwerp, 1558.

Roedd trigolion de Ewrop wedi amau erioed fod y gogledd pell yn lle llawn angenfilod ac arferion rhyfedd .  Er mawr lawenydd iddynt, cadarnhawyd eu hamheuon gan y llyfr hwn, sef y gwaith pwysig cyntaf ar bobloedd, daearyddiaeth, economi a ffawna gogledd Ewrop. Clerigwr o Sweden a oedd yn byw yn Rhufain, Olaus Magnus (1490-1557), oedd yr awdur.  Ei fwriad oedd y byddai Historia de gentibvs yn esbonio ei fap mawr o diroedd y gogledd a gyhoeddwyd ym 1539.  Yn nhorluniau pren y llyfr gwelir pobloedd y gogledd, gan gynnwys y Lapiaid a’r Ffiniaid, wrth eu gwaith bob dydd.  Wrth ddefnyddio mytholeg roedd yn adlewyrchu pryderon trigolion Gorllewin Ewrop ynghylch y gogledd pell.

Hawlfraint