Arddangosfa Thomas Phillips
C16
Paracelsus. Der grossen Wundartzney. Augsburg, 1536.
“Mae mwy o wybodaeth yn y blewiach ar fy ngên nag sydd ynoch chi a’ch ysgrifenyddion, mae byclau fy esgidiau’n fwy hyddysg na’ch arwyr mawr Galen ac Avicenna, ac mae gan fy marf fwy o brofiad na phob un o’ch colegau uchel!” Dyna eiriau Philip Theophrastus Aureolus Paracelsus Bombastus von Hohenheim (1493-1541), neu Paracelsus fel y’i gelwid gan amlaf, sef un o alcemyddion a ffisigwyr y Dadeni a fu’n arloesi ym maes cemotherapi, h.y. trin clefydau â meddyginiaethau cemegol. Cydnabu Paracelsus fod modd i’r corff lwyddo i'w wella'i hun yn aml. Wrth i laweroedd geisio iachau pobl trwy falu plisg wyau i mewn i glwyfau gwaedlyd, mynnodd Paracelsus y dylid cadw'r clwyf yn lân ac yna'i adael fel yr oedd. Does dim syndod bod cymaint o fynd mawr ar feddyginiaeth Paracelsus. Der grossen Wundartzney (‘Y Llyfr Mawr am Lawfeddygaeth’) oedd ei waith mwyaf a hwn oedd yr unig waith pwysig iddo ei gyhoeddi yn ystod ei oes. Ynddo cyflwynodd system gyflawn o lawfeddygaeth ar gyfer clwyfau, gan gynnwys clwyfau a achoswyd gan saethiadau gwn, llosgiadau a brathiadau anifeiliaid. Roedd yn llwyddiant ysgubol a daeth Paracelsus yn ddyn cyfoethog mawr o ganlyniad i hyn.

