Arddangosfa Thomas Phillips
13eg - 16eg Ganrif
Petrus de Capua. Distinctiones Theologicae. England, 13th.
Dyma lawysgrif ‘Gwaed y Mynaich’ a ddaeth yn enwog ar ôl iddi gael ei dangos i George Borrow yn ystod ei ymweliad â Choleg Dewi Sant ym 1854. Fe’i disgrifir ganddo ym mhennod 95 o Wild Wales (1862): “The grand curiosity is a manuscript which once belonged to the monks of Bangor Is Coed. It bears the marks of blood with which it was sprinkled when the monks were massacred by the heathen Saxons…”. Diolch i’r drefn, nid yw’r hanes yn wir. Er mai hon yw’r llawysgrif hynaf sydd gennym (hyd y gwyddom), credir iddi gael ei gwneud tua diwedd y ddeuddegfed ganrif, ond digwyddodd cyflafan y mynaich ym Mangor Is Coed tua 615. Mae’r Distinctiones yn rhan o waith helaethach o draethodau byrion ar bynciau diwinyddol.

