Arddangosfa Thomas Phillips

C16

Ptolemy. La geografia di Claudio Tolomeo Alessandrino. Venice, 1561. Ptolemy. La geografia di Claudio Tolomeo Alessandrino. Venice, 1561.

Rhoddodd seryddwr a mathemategydd a oedd yn byw yn Alexandria, yr Aifft, Claudius Ptolemaeus (90 OC – c.168) grynodeb o ddaearyddiaeth y byd hysbys  -- sef yr Ymerodraeth Rufeinig yn anad dim – yn yr ail ganrif OC.  Aeth ati i restru lledredau a hydredion rhyw 8,000 o leoedd yn Ewrop, Affrica ac Asia, gan nodi dulliau o daflunio ar gyfer creu mapiau.  Roedd gwaith Ptolemi’n gam sylweddol ymlaen yn yr wyddor o lunio mapiau ac, er gwaetha’i wallau, parhaodd yn destun awdurdodol am bron 1,400 o flynyddoedd.  Goroesodd ar hyd y canrifoedd trwy’r llawysgrifau a gopïwyd ac fe’i argraffwyd ym 1482, a’r gwaith yn cynyddu gydol yr adeg wrth i ragor o wybodaeth ddaearyddol ddod i’r amlwg. Cyhoeddodd yr Alcemydd, ffisigwr a chartograffydd o’r Eidal Girolamo Ruscelli (c1504-1566) argraffiadau diwygiedig ac estynedig o Ddaearyddiaeth Ptolemi. Yr argraffiad presennol yw’r cyntaf i gynnwys mapiau Ruscelli ei hun.

Hawlfraint