Arddangosfa Thomas Phillips

13eg - 16eg Ganrif

Raphael Holinshed. Chronicles. London, 1585. Raphael Holinshed. Chronicles. London, 1585.

Raphael Holinshed (1529-1580) oedd prif awdur a golygydd y cofnod hanesyddol cynhwysfawr hwn o ddigwyddiadau ffurfiannol yn natblygiad Prydain Fawr rhwng y cyfnod cyn-Gristnogol ac oes y Tuduriaid.  Defnyddiwyd yr ail argraffiad diwygiedig, a ddangosir yma, gan William Shakespeare yn ddeunydd ar gyfer ffynonellau'r rhan fwyaf o'i ddramâu hanesyddol, stori Macbeth, a darnau King Lear a Cymbeline. Cafodd ei sensro yn fuan ar ôl iddo gael ei gyhoeddi gan y Frenhines Elisabeth I.  Cyhoeddwyd yr adrannau a waharddwyd am y tro cyntaf ym 1729. Yn y Chronicles ceir hanes o Loegr a Chymru ynghyd â hanes o Iwerddon a luniwyd gan Gerallt Gymro.  Er bod hwn yn waith cynhwysfawr, yr hyn sy'n ei wneud yn ddiddorol yn bennaf yw'r cysylltiad â Shakespeare.

Hawlfraint