Arddangosfa Thomas Phillips

13eg - 16eg Ganrif

Roman Catholic Church . Missale Vratislaviense. Mainz, 1499. Roman Catholic Church . Missale Vratislaviense. Mainz, 1499.

Copïwr llawysgrifau o Mainz oedd Peter Schöffer ac erbyn 1455 ef oedd prif weithiwr Johannes Gutenberg, sef dyfeisiwr y wasg argraffu.  Bu Schöffer yn gweithio gyda Gutenberg ar ei Feibl 42-llinell enwog ac wedyn aeth i fusnes ar ei liwt ei hun, gan gyflwyno nifer o welliannau technegol arloesol megis defnyddio inciau lliw wrth argraffu llythrennau blaen.   Argraffwyd y llyfr offeren trawiadol hwn i’w ddefnyddio yn yr eglwys yn Breslau, bellach Wroclow, ac ym 1506 fe’i rhoddwyd i eglwys Santes Fair Fendigaid yn Glogau, ger Breslau, gan Vincency IIrganck.  Prynodd Thomas Phillips ef ar gyfer Llanbed yng ngwerthiant y casglwr llyfrau enwog o’r Almaen, Georg Kloss, ym 1835.

Hawlfraint