Arddangosfa Thomas Phillips
C16
Sebastiano Serlio. Libro estraordinario di Sebastiano Serlio Bolognese.Venice, 1566.
Roedd y Pensaer Sebastiano Serlio (c1475 -c.1554) yn rhan o’r tîm o’r Eidal a oedd yn gyfrifol am godi Palas Brenin Ffrainc yn Fontainebleau. Er iddo ddechrau ar ei yrfa yn beintiwr, mae’i bwysigrwydd yn deillio o'i ddamcaniaethau pensaernïol. Nod ei weithiau cyhoeddedig oedd cynnig canllawiau ymarferol i grefftwyr cyfoes. Yn wahanol i lawer o lyfrau cyfoes ar bensaernïaeth, lle’r testun oedd yr elfen bwysicaf, gwnaeth Serlio ddefnydd helaeth o ddarluniadau i gyfleu gwybodaeth. Mae llawer yn cytuno mai traethodau Serlio ar bensaernïaeth oedd yn bennaf gyfrifol am ledu egwyddorion pensaernïol y Dadeni i bob cwr o Ewrop.

