Arddangosfa Thomas Phillips

13eg - 16eg Ganrif

Terence. Comico Carmine. Strassburg, 1503. Terence. Comico Carmine. Strassburg, 1503.

Roedd Publius Terentius Afer (195/185–159 CC), sy’n fwy adnabyddus o dan yr enw Terens, yn ddramodydd comedi Rhufeinig.  Fe’i ganed yn gaethwas, a’i gludo i Rufain, lle cafodd addysg a’i ryddid maes o law.  Roedd ei ddramâu mydryddol yn seiliedig ar weithiau Groegaidd. Cafodd Terens wared ar y prolog o’r gweithiau gwreiddiol, defnyddiodd Ladin llafar cyfoes, a chyflwyno mesur o realaeth.  Roedd ei waith yn ddylanwadol ar ddramodwyr diweddarach megis William Shakespeare.

Hawlfraint