Arddangosfa Thomas Phillips
13eg - 16eg Ganrif
The Holy Bible, conteining the Olde and Newe Testament. London, 1584.
Diwygiad ar y Beibl Mawr o dan gyfarwyddyd Archesgob y Frenhines Elisabeth, Matthew Parker, oedd “Beibl yr Esgobion”. Amcan y prosiect oedd creu fersiwn swyddogol a fyddai’n gallu cystadlu â Beibl Genefa. Ond methu a wnaeth Beibl yr Esgobion yn hyn o beth, wrth i Feibl Genefa barhau i fod y fersiwn fwyaf poblogaidd yn Lloegr. Pennwyd Beibl yr Esgobion maes o law yn sail i Fersiwn y Brenin Iago ym 1611.

