Arddangosfa Thomas Phillips

13eg - 16eg Ganrif

Thomas More. Utopia.Basel, 1518. Thomas More. Utopia.Basel, 1518.

Syr Thomas More (1478- 1535), un o ddyneiddwyr y Dadeni, a fathodd y gair "iwtopia" wrth enwi gwlad ar ynys ddychmygol. Trefn wleidyddol y wlad honno yw testun y gwaith presennol, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1516.  Gwrthododd More gydnabod mai Harri VIII oedd Goruchaf Ben Eglwys Loegr, ac o’r herwydd fe’i carcharwyd, ei roi ar brawf a’i ddienyddio am deyrnfradwriaeth.  Er gwaetha’r ystyron modern a roddir i’r gair "iwtopia", y farn gyffredinol yw nad ceisio cyflwyno ei syniad o fyd delfrydol oedd unig amcan More, ond yn hytrach ei fod yn awyddus i ddefnyddio’r gwrthgyferbyniad rhwng syniadau gwleidyddol anarferol y wlad ddychmygol a gwleidyddiaeth anhrefnus ei ddydd ei hun er mwyn trafod materion cymdeithasol Ewrop.

Hawlfraint