Arddangosfa Thomas Phillips

C16

Ulrich Tengler. Der neue Layenspiegel. Strassburg, 1527. Ulrich Tengler. Der neue Layenspiegel. Strassburg, 1527.

Casglwr trethi a beili yn Höchstädt ym Mafaria oedd Ulrich Tengler (143? - 1511). Bwriadai i’r Layenspiegel fod yn ganllaw ymarferol i ysgolheigion nad oeddent wedi cael hyfforddiant costus yn ysgrifenyddion, yn gyfreithwyr, yn brocuraduron, yn notarïaid, neu’n areithwyr, ond a oedd, er gwaethaf hynny, yn weithgar ym myd y gyfraith.  Ynddo cafwyd crynodeb o bopeth perthnasol a oedd wedi’i ysgrifennu ar gyfraith sifil, a chyfraith gyhoeddus, yn seiliedig ar y testunau safonol, sef Aristotles, y Beibl a ffynonellau cyfraith gwlad.  Golygwyd a chyhoeddwyd y gwaith gan yr awdur dyneiddiol o fri Sebastian Brant (1457-1521). Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, cyhoeddwyd pedwar ar ddeg o argraffiadau. Ar ôl i Tengler farw ym 1511, ymddangosodd fersiwn ddiwygiedig o dan y teitl Der neue Layenspiegel.

Hawlfraint