Arddangosfa Thomas Phillips

17eg Ganrif

Athanasius Kircher. China monumentis. Amsterdam, 1667. Abraham Rogerius. La porte ouverte. Amstredam, 1670.

Bu’r clerigwr Abraham Rogerius yn byw am ddwy flynedd ar bymtheg (1630-47) yn Paliacatta ar arfordir Coromandel.  Gwnaeth dysg y Brahmin a’u syniadau am fywyd a marwolaeth argraff fawr ar Rogerius ac ysgrifennodd y llyfr hwn am fywyd, arferion, ffydd a defodau crefyddol y Brahmin Tamil.  Dyma’r adroddiad cynharaf o Hindŵaeth yn Ne’r India a’r gwaith cyntaf i’w gyhoeddi yn Ewrop a oedd yn cynnwys cyfieithiad o ddarn o lenyddiaeth Sansgrit (Dywediadau Bhartrhari).

Hawlfraint