Arddangosfa Thomas Phillips

17eg Ganrif

Alexander Oliver Exquemelin. Bucaniers of America. London, 1684. Alexander Oliver Exquemelin. Bucaniers of America. London, 1684.

Dyma’r argraffiad Saesneg cyntaf o’r clasur am forladron gan Alexandre Olivier Exquemelin (c. 1645-1707), a fu yntau yn fycanîr.  Ym 1666 cyflogwyd Exquemelin gan Gwmni India’r Gorllewin Ffrengig ac aeth i Tortuga lle'r arhosodd am dair blynedd.  Yno yr ymunodd â'r bycanîrs, yn enwedig â chriw'r Llyngesydd a’r preifatîr o Gymro Harri Morgan (1635-1688) a hynny fel barbwr-llawfeddyg fwy na thebyg, gan barhau yn eu cwmni tan 1674. Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn gyntaf yn yr Isalmaenig ym 1678, ac mae’r cyfieithiad hwn yn seiliedig ar fersiwn Sbaenaidd a gyhoeddwyd ym 1681.  Anrhydeddodd Exquemelin Morgan â phortread a golygfa ohono’n difetha llynges Sbaen.  Eto i gyd, cyflwynodd Morgan achos o enllib yn ei erbyn a bu’n llwyddiannus.   Dyfarnwyd £200 iddo.

Hawlfraint