Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Andres Ferrer de Valdecebro . Govierno general, moral, y politico. Barcelona, 1696.
Athro Dominicaidd enwog yn ninas Pueblo ym Mecsico oedd Ferrer de Valdecebro (1620 - 1680). Dychwelodd i Sbaen ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth. Yn Sbaen derbyniodd benodiad gan y Pab a dod yn gyffeswr ar blant y Brenin. Cafodd Govierno general Valdecebro yr un derbyniad brwd arferol yn Sbaen am gyhoeddiadau emblemataidd a oedd yn ysbrydol a moesol eu cynnwys. Yn yr argraffiad hwn o Barcelona, mae'r engrafiadau pren bywiog, sy’n debygol o fod yn waith artist Catalan, yn ategiad hardd i’r testun. Mae’r llyfr yn gymysgedd o fwystawr a chanllawiau moesol. Mae disgrifiadau o gynefinoedd pob anifail yn cyd-fynd â disgrifiadau o'u priodoleddau. Mae cyfeiriadau at y Byd Newydd yn enwedig yn y penodau ar yr uncorn, gan ganolbwyntio’n arbennig ar Beriw.

