Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Athanasius Kircher. China monumentis. Amsterdam, 1667.
Ym mis Mai 2002, daeth cwmni o ysgolheigion, awduron a haneswyr o fri ynghyd yn Athrofa’r Dyniaethau yn Efrog Newydd er mwyn mynd i'r afael â phwnc llosg: "Athanasius Kircher oedd y dyn mwyaf cŵl a fu erioed, onid e?" Byddai Kircher (1602-1680) y Jeswit o'r Almaen wedi cymeradwyo’r gosodiad yn wresog. Nid oedd gronyn o ffug ostyngeiddrwydd yn perthyn iddo. Dyma’i sylw ar dderbyniad y China Monumentis gan y cyhoedd: “cafodd glod uchel gan ddarllenwyr deallus a oedd yn rhyfeddu at newydd-deb y pwnc”, ond nid oedd prinder o “feirniaid maleisus, drwg a oedd yn barod i ladd arno â dadleuon crafog”. Aeth llawer o feirniaid ati i gynnig cywiriadau a oedd yn “dwp neu’n ddwl”. Yn y llyfr ceisiodd Kircher esbonio tarddiad “arferion, seremonïau ac eilunod dwyreiniol”.

