Arddangosfa Thomas Phillips

17eg Ganrif

Bartolome de Las Casas. Den vermeerderden spieghel der Spaensche tierannije. Amsterdam, 1621. Bartolome de Las Casas .Den vermeerderden spieghel der Spaensche tierannije. Amsterdam, 1621.

Ym 1621, ni adnewyddodd yr Iseldiroedd eu cytundeb heddwch â’u cyn-bŵer trefedigaethol, Sbaen, a daeth rhyfel yn fuan yn sgil hynny. Defnyddiwyd y gwaith hwn yn arf yn y frwydr bropaganda yn erbyn yr Eglwys Babyddol a Sbaen.  Gwaith Bartolome de Las Casas (1474-1566), neu’r "Apostle yr Indiaid” fel y’i gelwid, ydoedd yn wreiddiol.  Ordeiniwyd Las Casas yn Hispaniola ym 1512, ac ef o bosibl oedd y person cyntaf i’w urddo’n offeiriad yn America.  Am ddau ddegawd a mwy, gwrthwynebodd yr awdurdodau Sbaenaidd yn lew am y modd yr oeddent yn cam-drin yr Indiaid.  Ym 1547, dychwelodd i Sbaen er mwyn dadlau’n gyhoeddus o blaid efengylu’r Indiaid mewn modd heddychol.

Hawlfraint