Arddangosfa Thomas Phillips

17eg Ganrif

Cornelius Wytfliet . Descriptionis Ptolemaicæ avgmentvm. Douai, 1603. Cornelius Wytfliet . Descriptionis Ptolemaicæ avgmentvm. Douai, 1603

Hwn yw’r atlas cyntaf sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gyfandiroedd America. Fe’i paratowyd gan y cartograffydd Fflemineg Cornelius Wytfliet, ac fe’i cyhoeddwyd yn gyntaf ym 1597 yn Louvain, Gwlad Belg, fel atodiad i waith Ptolemi, Geographia.Bwriad Wytfliet oedd i’r gwaith gofnodi’r rhannau o’r byd nad oedd Ptolemi yn gwybod amdanynt. Cyflwynir y gwaith i Frenin Sbaen Philip III, ac mae’n rhoi hanes cysylltiad cyntaf yr Ewropeaid â’r Byd Newydd, gan gynnwys ei ddaearyddiaeth a’i hanes naturiol.  Mae gan yr atlas hefyd nifer o fapiau trawiadol, gan gynnwys y map cyntaf o Galiffornia i'w argraffu.

Hawlfraint