Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Étienne Chauvin. Lexicon rationale. Rotterdam, 1692.
Dyma o’r gwyddoniaduron gwyddonol cyntaf, ac mae’n bosibl iddo ysbrydoli gwaith Pierre Bayle, y Geiriadur Hanesyddol a Beirniadol, sef un o glasuron yr Oleuedigaeth. Ar yr wynebddalen a ddangosir yma gwelir Descartes, Platon, Aristotles, Diana’r Ephesiaid, Apolon, arsyllfa seryddol ac amrywiol offer gwyddonol. Roedd awdur y gwaith, Étienne Chauvin (1640-1725), yn glerigwr Protestannaidd o Ffrainc a ffodd rhag anoddefgarwch crefyddol gwladwriaeth Babyddol Ffrainc er mwyn mynd yn bregethwr yn Venezuela. Ym 1695 dychwelodd i Ewrop le bu’n flaenllaw yn yr ymdrechion i hyrwyddo ffiseg Gartesaidd.

