Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Francis Bacon. Instauratio magna. London, 1620.
Heriodd y gwleidydd a’r athronydd, yr Arglwydd Ganghellor Francis Bacon, Is-iarll St Alban (1561–1626), ddealltwriaeth ei gyfoeswyr mai myfyrio ar wirioneddau tragwyddol a oedd wedi'u hen ddarganfod oedd gwyddoniaeth. Yn hytrach, plediodd y dylid ystyried gwyddoniaeth yn ymgais weithredol i ymchwilio i’r hyn nad oedd yn hysbys. Mae’r Instauratio magna (‘Yr Adnewyddiad Mawr’) yn ganolog i ymresymu Bacon. Dangosir ei flaenddalen enwog yma, a’i llun o long yn teithio rhwng Colofnau chwedlonol Hercules y tybid eu bod yng Nghulfor Gibraltar sef ffin y byd y gwyddys amdano i wareiddiad clasurol y Groegiaid. Alegori ydyw, felly, o fyd newydd o wybodaeth y tu hwnt i athroniaeth draddodiadol y prifysgolion. Daw’r ymadrodd Lladin o dan y Colofnau o lyfr Daniel a gellir ei gyfieithu yn "Bydd llawer yn teithio trwodd a bydd gwybodaeth yn cynyddu".

