Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Gerard Mercator. Atlas, or A geographicke description of the regions, countries, and kingdomes of the world. Amsterdam, 1636.
Atlas Mercator-Hondius, a’i fapiau wedi’u hengrafu ar dudalennau dwbl, wedi’u lliwio’n gywrain gan law gyfoes, yw un o’r atlasau pwysicaf yn hanes cartograffeg. Fe’i cyhoeddwyd yn gyntaf ym1595 gan Gerard Mercator (1512-1594) ac a’i ddiweddaru maes o law gan Jodocus Hondius (1563-1612) a brynodd y platiau yn yr arwerthiant o lyfrgell Mercator ym 1604. Roedd yr argraffiad newydd o waith Mercator yn llwyddiant ysgubol, ac roedd pob copi wedi’i werthu ymhen blwyddyn. Ar ôl marwolaeth Hondius ym 1612, parhaodd ei weddw a’i ddau fab, Jodocus II a Henricus, â’i waith argraffu yn Amsterdam. Ffurfiodd ei deulu bartneriaeth yn ddiweddarach â Jan Jansson, ac mae’i enw ef ar yr argraffiad hwn. Ychwanegwyd mapiau newydd at bob argraffiad, gan gynyddu 107 o fapiau yn yr argraffiad cyntaf i 150 erbyn y 1620au.

