Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Giovanni Battista Ferrari. Hesperides, sive, De malorum aureorum cultura et usu libri quatuor. Rome, 1646.
Roedd Giovanni Battista Ferrari (1584-1655) yn athro Jeswitaidd a oedd yn dysgu Hebraeg mewn coleg offeiriadol yn Rhufain, lle datblygodd ddiddordeb mewn garddio. Ei waith Hesperides yw’r llyfr cyntaf sy’n canolbwyntio’n llwyr ar dyfu ffrwythau citrws, yr oedd ysfa wyllt amdanynt (yn yr un modd â’r tiwlip) yng nghylchoedd garddwriaethol yr ail ganrif ar bymtheg. Mae’r Hesperides yn enghraifft ysblennydd o gynhyrchu llyfrau yn y dull Baróc a bu Nicolas Poussin (1594-1665) yn cyfrannu dyluniadau ato. Y gwneuthurwr printiau o’r Iseldiroedd Cornelis Bloemaert (1603-1692) oedd yn bennaf gyfrifol am ddarluniadau'r gwaith a bu’r modd awgrymog yr aeth ati i gyfleu graddfeydd o olau a chysgod yn ddylanwadol ar engrafwyr diweddarach. Ar ddechrau’r llyfr mae Ercwlff yn hela am afalau aur yng ngardd yr Hesperidau, sef merched Hesperus (neu’r Nos) a oedd, gyda chymorth draig, yn amddiffyn yr ardd ym mhen gorllewinol eithaf y byd hysbys. Dwyn yr afalau oedd yr olaf o ddeuddeg llafur Ercwlff cyn iddo ymuno â’r duwiau.

