Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Girard Thibault. Academie de l'espée.Leiden, Elzevier, 1630.
Athro ffensio o’r Iseldiroedd oedd Girard Thibault d'Anvers (1574-1629) ac ef oedd awdur y llawlyfr hwn ar gleddyfaeth. Mae’n enghraifft loyw o ddarluniadau Baróc a chyfrannodd llawer o engrafwyr gorau’r Iseldiroedd a Fflandrys ato, er ei bod yn rhyfedd na nodir enw’r artist a oedd yn gyfrifol am y darluniau gwreiddiol. Yn yr ail ganrif ar bymtheg, roedd yn hanfodol i bob gŵr bonheddig go iawn fod yn gyfarwydd ag egwyddorion marchogaeth, ffensio a gornestau, fel y dengys maint anferthol a chost enfawr y llyfr hwn. Er bod y flaenddalen yn dweud iddo gael ei gyhoeddi yn 1628, nis cyhoeddwyd mewn gwirionedd tan 1630, sef blwyddyn ar ôl i Thibault farw.

