Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Giulio Cesare Casseri. De vocis avditvsq[ue] organis historia anatomica singvlari fide methodo ac indvstria concinnata tractatibvs dvobvs explicata ac variis iconibvs ære excvsis illvstrata.Ferrara, 1601.
Roedd y llawfeddyg a'r anatomydd Giulio Cesare Casseri, (c.1552-1616), yn adnabyddus yn ystod ei oes am ei ymchwil i anatomeg yr organnau’r lleferydd a'r clyw. Bu farw tad Casseri pan oedd yn ifanc gan adael y teulu’n dlawd. O ganlyniad, pan aeth i’r ysgol feddygol ym Mhrifysgol Padua, roedd rhaid iddo wneud hynny fel gwas i fyfyriwr arall. Maes o law bu’n was i’r enwog Fabricius ab Aquapendente (ca. 1533-1619), a byddai Casseri yn llenwi ei gadair mewn llawfeddygaeth ac anatomeg yn ddiweddarach. Tua 1600, dechreuodd Casseri weithio ar atlas anatomegol a fyddai’n cynnwys y corff dynol yn ei gyfanrwydd. Pan fu farw ym 1616 roedd y gwaith yn anorffenedig o hyd. Mae rhai wedi awgrymu mai Fabricius oedd yn gyfrifol am atal y gwaith rhag cael ei gyhoeddi ym 1616, a hynny oherwydd yr ymryson a fu rhwng y ddau ddyn.

