Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Heinrich Khunrath. Amphitheatrum sapientiae aeternae solius verae. Hanover, 1609.
Ffisigwr, ysgolhaig meudwyol ac alcemydd oedd Heinrich Khunrath (c. 1560- 1605), a’i fryd ar ddod o hyd i’r prima materia dirgel a fyddai’n tywys dynolryw i ddoethineb tragwyddol. Amphitheatrum Sapientiae Aeternae (‘Amffitheatr Doethineb Tragwyddol’), oedd enw ei waith enwocaf, ac yn sgil yr argraffiad dan sylw taenwyd ei syniadau yn eang am y tro cyntaf. Dyma un o glasuron alcemeg sy’n cyfuno Cristnogaeth ar y naill law a hud ar y llall. Roedd Khunrath yn un o ddilynwyr Paracelsus a John Dee (1527-1608), y mathemategydd a’r ocwltydd a fu’n gynghorydd i Elisabeth I. Cyfarfu Khunrath â Dee ym 1589 yn ystod ymweliad â llys ymerodrol Rudolf II von Habsburg yn ninas Prâg lle’r oedd Dee yn dihoeni yn y carchar.

