Arddangosfa Thomas Phillips

17eg Ganrif

Herman Hugo. De militia eqvestri antiqva et nova. Antwerp, 1630. Herman Hugo. De militia eqvestri antiqva et nova. Antwerp, 1630.

Dyma un o’r llawlyfrau cyntaf am reolau, tactegau a’r dulliau o drafod marchfilwyr. Fe’i cyhoeddwyd pan oedd y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–1648) yn ei anterth. Caplan milwrol, y Jeswit Herman Hugo (1558-1629), oedd yr awdur ac mae’n fwy adnabyddus am ysgrifennu'r llyfr arwyddluniau llwyddiannus dros ben,  Pia Desiderata.  Er bod yr wynebddalen, a engrafwyd gan Cornelis Galle, disgybl o Peter Paul Rubens, yn alegorïaidd yn y dull Baróc llawn, mae’r platiau yn y llyfrau yn ddiagramau digon plaen sy’n dangos symudiadau marchfilwyr yn y maes.  Bu farw Hugo ar faes y gad.

Hawlfraint