Arddangosfa Thomas Phillips

17eg Ganrif

Isaac Pontanus. Rerum et urbis Amstelodamensium historia. Amsterdam, 1611. Isaac Pontanus. Rerum et urbis Amstelodamensium historia. Amsterdam, 1611.

Dyma’r hanes manwl cyntaf i’w gyhoeddi am Amsterdam. Enillodd yr awdur, Isaac Pontanus(1571-1639), ddoethuriaeth yn Leiden a bu’n astudio gyda’r seryddwr Danaidd Tycho Brahe(1546-1601).  Mae’r gwaith yn rhagori’n fawr ar y disgrifiadau o drefi a oedd yn arferol yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys adroddiadau manwl am deithiau darganfod a theithiau masnachol dinasyddion mentrus Amsterdam. Mae Pontanus hefyd yn rhoi disgrifiad manwl o farchnadoedd stoc a nwyddau Amsterdam a oedd ymhlith y marchnadoedd cyntaf o’u bath yn y byd a’r pwysicaf ar yr adeg honno.  Ymhlith yr adrannau o'r gwaith sy’n arbennig o bwysig mae’r adroddiadau lle mae Pontanus yn cynnwys adroddiadau am ymdrechion yr Iseldiroedd i ddod o hyd i Lwybr o’r Gogledd i’r Dwyrain a dwy daith gyntaf yr Iseldiroedd i India’r Dwyrain.  Enynnodd y llyfr wrthwynebiad ffyrnig o wahanol garfannau ac roedd ar Fynegair y llyfrau gwaharddedig am nifer o flynyddoedd.

Hawlfraint