Arddangosfa Thomas Phillips

17eg Ganrif

Jan van der Straat. Venationes ferarum, auium, piscium pugnae bestiariorum & mutuae bestiarum. Antwerp, [1630]. Jan van der Straat. Venationes ferarum, auium, piscium pugnae bestiariorum & mutuae bestiarum. Antwerp, [1630].

Treuliodd un o artistiaid y Dadeni yn Fflandrys, Jan van der Straat (1523-1605), y rhan fwyaf o’i fywyd yn gweithio yn yr Eidal lle’r oedd yn dylunio cartwnau i’w rhoi ar dapestrïau.  Rhwng 1553 a 1571, roedd yn gweithio i Cosimo de Medici er mwyn dylunio cyfres o luniau ysblennydd a oedd yn portreadu pobl yn hela, yn saethu adar ac yn pysgota i addurno'r ugain o ystafelloedd ym Mhalas Peggio-a-Cajano.  Mae’r Venationes yn coffáu’r dyluniadau hyn (a rhai eraill) yn wych gan ddangos y dulliau hela traddodiadol adeg y Dadeni trwy ddefnyddio testunau ffansïol o darddiad dwyreiniol.  Hyfforddwyd y rheini a fu'n engrafu'r gwaith hwn gan Peter Paul Rubens.

Hawlfraint