Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Jean-Jacques Boissard .Tractatus posthumus Jani Jacobi Boissardi Vesvuntini De divinatione & magicis præstigiis. Oppenhain, 1616.
Traethawd yw’r gwaith rhyfedd hwn gan yr hynafiaethwr o Ffrainc Jean-Jacques Boissard (1552-1607) ar ddewiniaeth, hud, oraclau, gwŷr doeth a duwiau’r hwn fyd. Engrafwyd y darluniau gan Johann Theodore de Bry, a oedd wedi gweithio gyda’i dad cyn hyn ar y darluniau cyntaf o Indiaid Gogledd America. Mae’r engrafiadau yn y gyfrol bresennol yn nodweddiadol o arddull a thechneg de Bry, ac maent yn arbennig o ddiddorol oherwydd eu heiconograffeg anarferol nad yw’n glynu'n agos iawn wrth fodelau blaenorol. Mae’r llyfr hefyd yn hynod oherwydd yr hunanbortread anarferol de Bry sy'n ei ddangos â chopïau o'i weithiau daearyddol toreithiog a'i arfbais yn ei law.

