Arddangosfa Thomas Phillips

17eg Ganrif

Johannes Commelin . Horti medici Amstelodamensis. Amsterdam, 1697. Johannes Commelin . Horti medici Amstelodamensis. Amsterdam, 1697.

Mae’r gwaith ysblennydd hwn yn gofnod o’r planhigion egsotig yng ngardd ffisig Amsterdam, yr oedd Jan Commelin yn gyfarwyddwr arno. Masnachwr sbeisiau o’r Iseldiroedd oedd Johannes Commelin (1629-1692) a defnyddiodd ei gyfoeth i wneud Gerddi Botaneg Amsterdam yn prif ganolfan Ewrop ar gyfer astudio botaneg ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. A’r Iseldiroedd mewn sefyllfa ganolog o ran masnach ryngwladol, Amsterdam oedd y lle delfrydol i gasglu ac astudio’r planhigion egsotig a ddarganfuwyd gan Ewropeaid yn India'r Dwyrain, Affrica a Chyfandiroedd America.  Commelin a ysgrifennodd y rhan fwyaf o destun y gwaith hwn, ond ei nai, Caspar Commelin (1667-1731) a’i cwblhaodd. Jan a Maria Moninckx a wnaeth y paentiadau gwreiddiol ar gyfer yr engrafiadau.

Hawlfraint