Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Johannes de Laet. Novus orbis. Amsterdam, 1633.
Gan ei fod yn gyfarwyddwr ar Gwmni India’r Dwyrain Isalmeinig, gallai Johannes de Laet (1593-1649) fanteisio’n hawdd ar yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfandiroedd America. Seiliodd y gwaith presennol ar yr wybodaeth hon, gan greu'r llyfr cywiraf a'r mwyaf cynhwysfawr ar y pryd am y Byd Newydd. Roedd pedwar ar ddeg o fapiau o gyfandiroedd America yn y gwaith ac fe'u copïwyd yn fwy a chawsant fwy o ddylanwad nag unrhyw fapiau eraill am ganrif a mwy. Yn eu plith mae’r mapiau argraffedig cyntaf sy'n enwi Amsterdam Newydd a Manhatten. Mae gan y gwaith ddarluniadau hyfryd, er eu bod braidd yn ffansïol, o fflora a ffawna'r Byd Newydd.

