Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Johannes Jonstonus. An history of the wonderful things of nature. London, 1657.
Ganed y ffisigwr a'r naturiaethwr uchel ei barch, Jonston (1603-1675), yng Ngwald Pwyl yn fab i fewnfudwyr Albanaidd. Astudiodd ym Mhrifysgolion St Andrew, a Chaergrawnt, cafodd radd mewn meddygaeth gan Leiden ym 1634, a threuliodd ei fywyd yng Ngwlad Pwyl yn gwneud meddygaeth ac yn dysgu. Cyfieithiad y gwaith hwn i’r Isalmaeneg oedd prif ffynhonnell wybodaeth y Siapaneaid am sŵoleg Ewrop. Does wybod ymateb y darllenwyr wrth i’r llyfr drafod, ymhlith pynciau eraill, greu’r byd, dreigiau, baddonau mwynau, mordwyaeth, gemau a ddarganfuwyd yng nghyrff creaduriaid byw, uncyrn, amryw seirff, genedigaethau angenfilod, cerddwyr y nos, breuddwydion, cryfder ac ystwythder rhyfeddol rhai pobl.

