Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
John Speed. The theatre of the empire of Great Britaine. London, 1627.
Dyma’r ymgais gynharaf yn y Saesneg i lunio atlas ar raddfa fawr. Yn ogystal â chynnwys y mapiau manwl cyntaf o daleithiau Iwerddon, y set gyntaf o fapiau sirol a oedd yn ymdrechu'n gyson i ddangos ffiniau rhaniadau tiriogaethol, a'r set wirioneddol gynhwysfawr gyntaf o gynlluniau trefi Lloegr, rhoddodd y cartograffydd a’r hanesydd John Speed (1551/2-1629) hefyd wybodaeth am olion hynafiaethol, safleoedd brwydrau amlwg, ac arfbeisiau tywysogion a bonheddwyr. Mae’n bosibl nad oedd hanner cant o’r saithdeg a thair o drefi wedi'u mapio o'r blaen, ac mae'n debyg mai gwaith Speed ei hun oedd pumdeg ac un o'r mapiau hyn. Mapiau’rTheatre oedd sail yr atlasau ffolio a fyddai’n ymddangos maes o law a hynny tan ganol y ddeunawfed ganrif. Engrafwyd y platiau gan Jodocus Hondius.

