Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Robert Hooke. Micrographia. London, 1665.
Curadur arbrofion Cymdeithas Frenhinol Llundain oedd Robert Hooke (1635–1703), ac roedd yn flaenllaw yn yr ymdrechion i roi lle amlwg i ddulliau empirig wrth ddeall byd natur. Micrographia, a noddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol, oedd ei gyhoeddiad enwocaf, ac roedd yn gampwaith ymhlith y llyfrau a gynhyrchwyd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Hwn oedd y llyfr cyntaf ar y microsgop i’w gyhoeddi yn y Saesneg, a Hooke ei hun piau’r darluniau. Un o’r darluniau mwyaf trawiadol yw’r un sy’n dangos chwannen fach ddinod, wedi’i engrafu ar dudalen wedi’i phlygu sydd ryw hanner metr o led. Creodd Thomas Shadwell (c.1640–1692) gymeriad Syr Nicholas Gimcrack yn ei ddrama The Virtuoso er mwyn dychanu gwyddonwyr ei ddydd, a Hooke yn benodol. Ar ôl mynd i berfformiad ar 2 Mehefin 1676, dyma’r sylw yn nyddiadur Hooke: ‘Damned Dogs. Vindica me Deus. People almost pointed’.

