Arddangosfa Thomas Phillips
17eg Ganrif
Thomas Hobbes. Leviathan. London, 1651
Ysgrifennodd Thomas Hobbes (1588–1679) Leviathan yn ystod ei alltudiaeth yn Ffrainc ar ôl dienyddiad Siarl I. Yn y gwaith, dadleua Hobbes y dylai’r unigolyn ymostwng i’r Wladwriaeth bob tro am fod unrhyw lywodraeth yn well nag anarchiaeth. Crisalir y ddadl yn yr wynebddarlun enwog, a dynnwyd gan yr Huguenot alltud o Ffrainc, Abraham Bosse (1602-1676), ond a ddyluniwyd ar y cyd â Hobbes. Ynddo portreadir y wladwriaeth yn gawr, a chleddyf a bugeilffon yn ei law a choron ar ei ben, sef arwyddion o awdurdod dinesig ac eglwysig. Mae ei dorso a’i freichiau yn llawn o ffigurau bach sy’n rhan o gorff anrhanedig, heb wrthdaro, sef y wladwriaeth sy’n llywodraethu ar bopeth ac sy’n cwmpasu popeth. Mae’r dyrfa o bobl wedi’i chasglu’n gynulleidfa. Maent yn wynebau tuag i mewn, yn barchus, i gyfeiriad y duw meidrol, sy’n bwrw ei gysgod anferthol dros y tir. Mae ysgolheigion modern yn cydnabod bod Hobbes yn athronydd a’i bwysigrwydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i faes damcaniaeth wleidyddol - rhywun y mae ei waith ym maes diwinyddiaeth, metaffiseg, gwyddoniaeth, hanes a seicoleg yn rhoi sail i’w ystyried yn un o wir sylfaenwyr y meddwl modern yn niwylliant y Gorllewin.

